Rhiannon Michael, gohebydd Golwg yn y Cynulliad, oedd yng nghynadleddau y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Blaid Lafur yng Nghaerdydd bore ma…


Druan â Roger Williams. Mae e wedi cael eithaf clatsien gan arweinydd ei blaid bore ma. Doedd hi ddim yn garedig wrth ateb cwestiwn David Cornock o’r BBC pam nad oedd dewis cyntaf y Democratiaid Rhyddfrydol fel Ysgrifennydd Gwladol yn bresennol yn lansiad maniffesto’r blaid. Cwestiwn arall oedd pam ei fod e’n absennol yn lluniau’r maniffesto amryliw tra bod lluniau niferus o Kirsty Williams, er nad yw hi’n ymgeisydd yn yr etholiad cyffredinol. “Is it my fault I’m more photogenic than Roger?” protestiodd hi. “There are many things I can change but the genetic make up of my candidates isn’t one of them.” O diar.

Wrth gwrs roedd yr Ysgrifennydd Gwladol ei hun, Peter Hain, yn llond ei groen yn lansiad maniffesto Cymreig Llafur gyda Carwyn Jones yn ffyddlon wrth ei ochr. Un peth nodedig yn y lansiad oedd faint o Gymraeg oedd yno. Agorodd gyda darllediad  gwleidyddol dwyieithog ar y sgrin fawr a Carwyn Jones yn annerch gan gyfieithu ei hun o un iaith i’r llall. Do’n i ddim yn lansiad maniffesto Plaid Cymru ddydd Mawrth yn anffodus, ond y diffyg Cymraeg oedd yn nodedig yno yn ôl beth glywais i. Siom i bawb oedd pan gododd Rod Richards i ofyn cwestiwn drodd yn araith heb fod offer cyfieithu i oleuo’r di-Gymraeg am ei lith.

Beth bynnag, yn lansiad Llafur, wrth fy ochor i oedd yr unig sedd wag pan gyrhaeddodd y cyn Brif Weinidog, Rhodri Morgan. Doedd e’n amlwg ddim yn poeni gormod bod dim sedd wedi’i gadw iddo.  “Diolch byth nad oes rhaid i fi ddweud adnod,” meddai’n fodlon. Carwyn Jones sydd â’r rôl honno erbyn  hyn.