Clwb Merched Cybi yw’r unig dîm pêl-droed i ferched ym Môn, ac mae’n denu chwaraewyr o bob cwr o’r ynys.
Yn dilyn ymweliad ag Awstralia y cafodd merch o Sir Fôn ei hysbrydoli i sefydlu clwb ffitrwydd a phêl-droed yno.
Cyn y Nadolig, fe wnaeth Rachel Owen, sefydlu Clwb Ffitrwydd a Phêl-droed Merched Cybi.
Y bwriad oedd dysgu sgiliau newydd a chael dipyn o hwyl, fel yr oedd Rachel Owen wedi’i wneud yn Awstralia ar ôl bod draw yno gyda’i chariad yn ymweld â ffrind.
“Gwyliau oedd o i fod yn wreiddiol, i ddal fyny efo Annie, a chael cip ar ei bwywd hi draw yn y fan honno,” meddai.
Ond fe wnaeth y ferch 25 oed o Gaergybi fwynhau’r agwedd at fywyd yn Awstralia, gyda phobol wastad y tu allan yn yr awyr iach yn mwynhau llawer o chwaraeon.
“Oedd bron pob un o’r merched wnes i gwrdd â nhw yno yn chwarae soccer ar wahanol lefelau. Roedd gan bob ardal yn Perth dimoedd i ddynion a merched, yn mynd o’r dechreuwyr i’r A Teams.”
Roedd y merched hefyd yn chwarae pêl-droed yn yr ysgol, “sy’n wych, a dylai hynny ddigwydd yn fan hyn!”
Cael laff yn bwysig
“Yn ogystal â’r ochr pêl-droed o bethau, mae ffitrwydd yn bwysig hefyd,” meddai Rachel Owen, “a rydan ni’n cymryd rhan mewn teithiau noddedig ac ati.
“Dw i’n meddwl mai’r ffordd orau i gael pobol i gymryd at chwaraeon ydi ei wneud o’n hwyl – pan ydach chi’n rhedeg ar ôl y bêl, rydach chi’n anghofio am y ffaith eich bod yn fyr eich anadl, ac wedi bod yn rhedeg ers oesoedd!
“Rydan ni’n cymdeithasu ar ôl yr hyfforddi hefyd, ac mae hynny wastad yn ychwanegu at ysbryd y tîm!”
Mae sefydlu clwb o’r dechrau wedi golygu lot o waith trefnu, meddai Rachel Owen, ond mae pob owns o chwys wedi talu ar ei ganfed.
“Fyswn i’n argymell i unrhyw un i roi tro arni,” meddai.
Gweddill y stori yn Golwg, Ebrill 15