Mae corff darpar dad o Gymru gafodd ei ladd yn Afghanistan wedi cyrraedd adref heddiw.
Fe fu farw’r Ffiwsilwr Jonathan Antony Burgess, 20, o’r Gwarchodlu Cymreig, o glwyfau ergyd gwn yn dilyn brwydr yn ardal Nad ‘Ali, rhanbarth Helmand.
Roedd y dyn o Abertawe wedi dyweddïo i briodi Kelly Forrest, sy’n disgwyl eu merch Abigail ym mis Mai.
Roedd Jonathan Burgess wedi bod yn Afghanistan am bedwar mis cyn marw tra ar droed ar 7 Ebrill.
Fe wnaeth awyren gynnar gyrraedd RAF Lynham yn Wiltshire am 9am, gan osgoi’r llwch o Wlad yr Ia sydd wedi effeithio ar awyrennau eraill.
Roedd seremoni breif yng nghapel RAF Lynham am 1pm, ac yna fe gafodd y corff yn cael ei yrru drwy dref Wootton Bassett.
Mae’n gadael ei dad Royston, ei fam Susan, ei chwiorydd Tracy a Suzanne, a’i frodyr David, Christopher ac Ashley.
“Roedd Jonathan yn ddyn cariadus oedd yn mwynhau ei fywyd i’r eithaf,” meddai ei deulu wrth dalu teyrnged iddo.
“Fe fydd pawb yn gweld ei eisiau o. Fe fydd o’n arwr i ni am byth.”
Roedd Jonathan Burgess wedi siarad gyda phapur newydd y South Wales Evening Post ym mis Ionawr, gan ddweud ei fod o’n edrych ymlaen at ddychwelyd adref ar gyfer genedigaeth ei ferch ym mis Mai.