Fydd Porthmadog yn methu dod i delerau gyda mawrolaeth Ffion Wyn Roberts tan fod yna rywun yn cael eu dedfrydu’n euog o flaen llys, meddai cynghorydd o’r ardal.
Neithiwr, roedd yna funud o dawelwch mewn gêm bêl-droed ym Mhorthmadog er cof am Ffion Wyn Roberts, gafodd ei llofruddio yn y dre’.
Roedd y ferch 22 oed yn gefnogwr brwd o’r tîm lleol ac yn mynd i gemau ar faes Y Traeth yn aml.
Mae’r Heddlu wedi bod yn casglu tystiolaeth a lluniau o’r hyn a ddigwyddodd nos Wener yn yr oriau cyn i Ffion Roberts gael ei lladd, ac wedi tawelu meddwl y cyhoedd gan ddweud eu bod nhw’n meddwl mai ymosodiad unigol oedd hwn.
Ond dywedodd Alwyn Gruffydd nad oedd o’n credu y byddai pobol yn rhoi’r gorau i deimlo’n anesmwyth tan eu bod nhw’n gwybod pwy oedd yn gyfrifol am ei lladd hi.
“Fydd pethau byth yr un fath – mae’r sefyllfa’n un brawychus,” meddai Alwyn Gruffydd, sy’n cynrychioli ward Tremadog, wrth Golwg360.
Ychwanegodd nad oedd “neb wedi eu harestio” a bod hynny’n “gwneud pethau’n waeth” i’r gymdeithas leol.
“Mae’r llofruddiaeth wedi codi ofn yma, mae’r llofrudd allan yna yn rhywle. Fe fydd pobl wedi newid eu planiau nos Wener – wythnos wedi’r digwyddiad.”
‘Technoleg’ – ond dim arestiad
“Mi fasach chi’n meddwl erbyn rŵan hefo’r dechnoleg sydd ganddyn nhw y basa na rhywun dan amheuaeth,” meddai’r cynghorydd.
Peth arall y mae’n ei weld yn chwithig, er nad yw eisiau “beirniadu’r heddlu” meddai, yw bod ystafell ddigwyddiad yr achos yn Llandygai ym Mangor.
“Yr Heddlu sy’n deall eu pethau, ond mae’n swnio’n chwithig i mi fod yr ystafell ddigwyddiad draw yn Llandygai,” meddai Alwyn Gruffydd.
Fe wnaeth yr heddlu ymateb i sylw Alwyn Gruffydd gan ddweud: “Y rheswm syml yw nad oes ystafell Heddlu ddigon mawr ym Mhorthmadog.”
‘Y geiniog heb ddisgyn’
“Dwi’m yn meddwl fod y geiniog wedi disgyn i’r gymdeithas eto, er bod y teulu agos yn mynd drwy uffern,” ychwanegodd.
“Mae yna ryw anghrediniaeth yma fod rhywbeth fel yna wedi gallu digwydd ym Mhorthmadog”, meddai cyn dweud fod pobl Port yn “byw’r peth”.