Ac yntau’n 68 oed, mae’r canwr Meic Stevens wedi synnu ei hun ei fod yn cyhoeddi casgliad o ganeuon serch.
Nid dyna’r bwriad pan aeth e a’i fand ati y llynedd i recordio llond dwrn o ganeuon Saesneg oedd wedi bod “yn ei ben” ers diwedd y 1960au.
“Roedd gyda fi’r bag o ganeuon yma, a dyma beth wnaeth droi allan. Albym o ganeuon serch. Mae hi’n od gweithio ar ganeuon serch pan ti’n 68 oed!” meddai.
Bydd ffans yn gyfarwydd â nifer o’r caneuon ar yr albym Sing a Song of Sadness: Meic Stevens, The Love Songs … mae Cân o Dristwch wedi ei recordio yn Gymraeg eiseos.
Mwy i ganu’n Saesneg na Tom Jones
Mae e’n dweud y byddai hi’n “neis” petai gorsafoedd radio Saesneg eu hiaith yn talu sylw i’r record – “i dynnu eu sylw nhw at be’ sy’n digwydd yng Nghymru. Mae mwy yn mynd ymlaen yma na Tom Jones a David Gray. Os chi’n canu’n Saesneg chi’n tynnu sylw.”
Am ei gyd gantores Heather Jones y mae ‘Stuck in the Middle’ … ‘Merch yn y Canol’ ar yr albym Icarws yn 2007.
* Sing a Song of Sadness: Meic Stevens, The Love Songs, allan ddechrau mis Mai ar label Sain
Gweddill y stori yn Golwg, Ebrill 15