Mae actor ifanc addawol yn gadael goleuadau theatrig Llundain i ddod nôl i Gymru i bortreadu bardd ar lwyfan.

Dair wythnos yn ôl, enillodd Iwan Rheon wobr Olivier am ei ran yn y sioe gerdd Spring Awakening yn West End Llundain.

Mae’n byw yn y ddinas ers pum mlynedd ond ar hyn o bryd, mae e ’nôl yn ei gynefin yng Nghaerdydd, yn ymarfer at y brif ran mewn cynhyrchiad gan y Theatr Genedlaethol Saesneg newydd.

Ar ôl hynny, mi fydd yn ffilmio’r ail gyfres o Misfits ar gyfer Sianel 4.

Enillodd Iwan Rheon y wobr Olivier am yr actor gorau mewn rhan gefnogol.

Cymro ifanc arall, Aneurin Barnard o Fro Ogwr, enillodd wobr yr actor gorau, am y brif ran, Melchior.

“Fe wnaeth e gael lot o sylw,” meddai Iwan Rheon, “ac adolygiadau da iawn. Wnaeth hi ddim neud mor dda â hynny yn y Box Office. Ond mi wnaeth hi roi cyfle i fi ac Aneurin fynd allan i’r byd.”

Ei gof cynta’ o wylio drama oedd gwylio’i dad yn chwarae Dewi Sant mewn drama amatur yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi pan oedd tua thair oed. Pan oedd yn Ysgol Glantaf, byddai’n mwynhau perfformio.

“O’n i’n hoffi gwneud rhywbeth am fwynhad yn hytrach nag eistedd mewn stafell a sgwennu,” meddai.

Pan oedd yn 17 oed, cafodd ran Macsen ar Pobol y Cwm, efallai y cymeriad diniweitiaf iddo ei chael.

Fe’i cafodd ar ôl i gynhyrchydd y gyfres ar y pryd, Bethan Jones, ei weld mewn cystadleuaeth ymgom yn Eisteddfod yr Urdd.

Mi lwyddodd, serch hynny, i gael dau Lefel A, mewn Cymraeg a Drama.

“Roedd e bach yn od,” meddai. “Doedd e ddim yn helpu’r gwaith ysgol! Roedd hi’n od iawn, mynd i’r ysgol a’r gwersi a chroesi’r heol i’r BBC – roedd e rownd y gornel – ac wedyn yn y gwaith.”

The Devil Inside Him, Theatr Newydd, Caerdydd, rhwng Mai 6 a 16

Gweddill y stori yn Golwg, Ebrill 15