Ailethol Llafur yw’r unig ffordd o sicrhau bod Cymru yn cael ei siâr “teg” o arian tuag at y gwasanaethau cyhoeddus, meddai’r blaid wrth iddo lansio ei maniffesto Cymreig heddiw.

Cyfaddefodd Ysgrifennydd Cymru Peter Hain y byddai’n rhaid i’r blaid “dynhau eu beltiau” ond honnodd na fyddai gwrthwynebwyr Llafur yn fodlon gwario cymaint ar wasanaethau datganoledig fel ysgolion a’r Gwasanaeth Iechyd.

Fe wnaeth y blaid ailadrodd y bygythiad y byddai ethol y Ceidwadwyr yn arwain at “doriadau llym” fyddai’n peryglu cynlluniau Llywodraeth y Cynulliad, fel brecwast am ddim i blant cynradd.

Wrth sefyll gyda’i gilydd yng Nghaerdydd, fe wnaeth Peter Hain a’r Prif Weinidog Carwyn Jones addo y byddai San Steffan a Llywodraeth y Cynulliad yn cydweithio er mwyn sicrhau pleidlais ‘ie’ mewn refferendwm ar bwerau cynradd i’r Cynulliad.

Dywedodd Peter Hain bod cytundeb gyda’r Trysorlys yn sicrhau na fyddai Cymru yn colli arian dan Fformiwla Barnnett, sy’n penderfynu faint o arian sydd gan Lywodraeth y Cynulliad i’w wario.

Cyfeiriodd Llafur at y ffaith bod Cymru eisoes yn cael £114 am bob £100 sy’n cael ei wario yn Lloegr ar wasanaethau datganoledig.

“Fe fydden ni’n darparu nawdd teg ar gyfer Cymru, fel bod gwasanaethau cyhoeddus Cymru o tua’r un safon a’r hyn sy’n cael ei ddarparu yng ngweddill Prydain.”

Byddai llywodraeth Lafur yn San Steffan yn “gwneud yn siŵr bod Cymru’n cael ei ddiogelu” meddai Peter Hain.

“R’yn ni eisoes wedi ei gwneud hi’n glir fod yna sicrwydd o arian teg i Gymru – sy’n rywbeth na all unrhyw blaid arall ei addo.
“R’yn ni wedi trafod y peth gyda’r Trysorlys. R’yn ni’n gwybod ein bod ni’n mynd i allu ei wireddu.”