Y newyddiadurwr a’r darlithydd o Brifysgol Bangor, Dr Llion Iwan, sy’n edrych ar y dadleuon rhwng arweinwyr y prif bleidiau heno…
Ar drothwy’r trafodaethau ‘hanesyddol’ (nid yw’r cyfryngau sydd am ddarlledu neu drafod y rhain am golli cyfle i’n perswadio fod yn rhaid gwylio’r digwyddiad) rhwng arweinwyr tair o’n pleidiau gwleidyddol, daw’n fwyfwy amlwg mai ar y cyfryngau y bydd y frwydr yn ystod yr etholiad.
A phroblem y cyfryngau torfol 24 awr ydi fod yn rhaid canfod eitemau i lenwi’r bwletinau a’r rhaglenni estynedig. Yn y bôn mae ymgyrch etholiadol yn ddiflas i’w gwylio o bell, cyfres o luniau o ddynion, gan amlaf, mewn siwtiau tywyll yn cerdded trwy dorfeydd neu yn ysgwyd dwylo gan wenu ar bawb a phopeth gan eu cyfarch oll fel hen ffrindiau. Cyfle i’r miliwnydd Cameron i chwarae pŵl gyda phobl ifanc difreintiedig neu i Brown fentro i ganol siopwyr.
Sawl gwaith y gwelsom Cameron hyd yma yn annerch criw o bobl ifanc o bob tras, a’r rheiny yn eistedd o’i amgylch fel petaent mewn amffitheatr? Nid yw’r rheiny a welwn ar y sgrin yn gweld dim ond cefn ei ben, ond fe’u rhoddwyd yno er ein mwyn ni’r gwylwyr. Mae hyn yn fy atgoffa am ohebydd o’r UDA yn dweud sut na allai fyth a pheidio rhyfeddu artGeorge W. Bush pan fyddai’n glanio mewn maes awyr, yn camu o’i awyren ac yn codi llaw a chwifio a gwenu fel petai’n gwneud hynny ar hen ffrind. Wrth gwrs, nid oedd neb yno, ond perfformio ar gyfer y cyfryngau ydoedd – a dyna mae’r gwleidyddion yn ei wneud. Dyna pam y penderfynwyd fod yn rhaid i ni weld y gwragedd yn eu cefnogi a dilyn y gŵr yn ffyddlon. Ond yn ôl at y drafodaeth fawr.
Beth sydd yn debygol o ddigwydd pan fydd tri gwleidydd profiadol sydd wedi bod yn paratoi ers wythnosau, os nad misoedd, yn cwrdd i drafod pynciau o dan amodau y mae bob plaid wedi cytuno ymlaen llaw? Wrth gwrs fe allai un wneud camgymeriad, neu edrych yn anesmwyth – neu ar ei oriawr – ond y tebygrwydd ydi mai’r un atebion, ac yr un ymosodiadau ar bolisïau eu gilydd a gawn.
Ond yn ddiweddar fe wnaed sawl camgymeriad gan ein gwleidyddion ond distaw’r yw’r drafodaeth ar y rhain bellach. Yn amlwg roedd sawl ‘spin’ wedi bod ar stori statws treth prif noddwr a chadeirydd y ceidwadwyr, a bod William Hague unai wedi bod yn ffôl iawn neu yn gyfrwys tu hwnt.
Gordon Brown yntau wrth roi tystiolaeth gerbron yr ymchwiliad i ryfel Irac, yn ddweud fod digon o arian ar gael i’r fyddin bob blwyddyn, ond yna yn gorfod cyfaddef nad oedd hynny yn wir am bob blwyddyn. Camgymeriad, neu gelwydd gan obeithio na fyddai’n cael ei ddal?
Os gwyliwch y cyfryngau trwy gydol diwrnod gan neidio o un orsaf i’r llall, fe welwch gymaint o ôl hyfforddi sydd ar y gwleidyddion. Mae’n amlwg bob diwrnod fod neges arbennig i’w chyflwyno, a bod atebion parod ganddynt i’r un cwestiwn. Cymerwch David Cameron ar bob gorsaf o fore gwyn tan nos Fercher yn ateb y cwestiwn fod eu mantais yn y polau piniwn wedi disgyn, ‘dim ond un pôl sydd yn bwysig a hwnnw sydd ar fai’r 6ed yw hwnnw’. Bythefnos yn ôl mentrodd Brown, yr Albanwr a hoffai chwarae rygbi, trwy gyfrwng ei bodlediad gymharu’r economi’n cryfhau gydag anaf Wayne Rooney, gan ychwanegu ei fod ef, fel pawb arall yn y wlad yn dymuno’r gorau iddo. O gofio fod Rooney nôl ar gae mewn wythnos ac nad yw pawb yn cefnogi Man Utd na Lloegr pam fod Brown yn credu ei fod yn gwneud cam doeth yn datgan ei gefnogaeth i Rooney?
Rwy’n gwybod hefyd pwy sydd am fod yn fuddugol nos yfory. Dim dwywaith amdani, yr ‘arbenigwyr’ honedig yma ar ‘iaith y corff’ – y body language experts! Y siaradwyr proffesiynol hyn sydd yn cael eu holi yn fanwl am funudau ar sawl rhaglen bellach, ac yn siŵr o fod yn ystod, ac wedi’r drafodaeth.
Beth am lun o David Cameron yn yfed dŵr? ‘Mae ei geg yn sych am ei fod yn nerfus,’ yw barn yr arbenigwr doeth ar Sky nos Fercher. Wir yr? Neu beth am luniau o Nick Clegg yn llyncu wrth wrando ar gwestiwn. ‘Mae dan bwysau ac yn poeni, mae ei geg yntau yn sych,’ yw’r farn ar unwaith.
Gordon Brown? ‘Nid yw’n hoffi gwenu.’ Dwi’n meddwl fod hynny yn amlwg i bawb ers amser, er gwaethaf yr hyfforddiant ac yr ymarfer a gafodd cyn mentro i’r ffau llewod a chael ei holi gan Piers Morgan – nid Paxman mo hwnnw.
Felly ymlaen a ni at y drafodaeth…