Pan nad yw’n actio prifathro a thad surbwch ar y teledu, mae Emlyn Gomer Roberts yn llawn dychymyg.

Cafodd yr awdur a’r actor Emlyn Gomer Roberts y syniad am ei nofel ffantasi Ar Drywydd y Duwiau fwy na deng mlynedd yn ôl, ond dim ond yn awr y mae’n barod i’w chyhoeddi.

Yn y cyfamser, yn 2006, cyhoeddodd Y Ddraig Goch, nofel dditectif ddigri’ yn steil Raymond Chandler am Archdderwydd yn cael ei lofruddio.

“Cop out oedd y llyfr diwethaf,” meddai’r actor pengoch, “am fy mod i heb wneud digon o waith paratoi ar gyfer sgwennu hwn.”

Nofel ffantasi yw hi am fyd dychmygol, a rheolau a threfn, gwleidyddiaeth a chrefydd.

“Y syniad gwreiddiol oedd fy mod i eisio dweud rhywbeth mawr am grefydd,” meddai’r awdur.

“Trio deall pethe’n well; pam bod pethe’n digwydd yn enw crefydd; pam bod crefydd yn gymaint o ddylanwad arnon ni.”

Heb hyder, ond yn hapus

Emlyn Gomer oedd yn actio Gwil, y cariad llywaeth o’r gyfres deledu am rygbi merched, Amdani.

Mae e nawr yn actio’r prifathro Arwel Llywelyn ar Rownd a Rownd, ac yn gobeithio y caiff ddychwelyd i ffilmio’r gyfres nesa’ yn yr haf.

Ond mae ei ddiffyg hyder yn ei alltudio i gyrion cymdeithasol y byd proffesiynol y mae’n rhan ohoni.

“Dw i’n ei chael hi’n anodd cymysgu efo lot o actorion sy’n amlwg yn hyderus ac eisio clywed eu lleisiau eu hunain,” meddai.

“Rhowch sgript o fy mlaen i, lle dw i’n siarad fel cymeriad arall, dw i’n weddol gyfforddus.

“Rhowch fi fel fy hun, dw i’n mynd yn ga-ga. Ar gyfweliad radio, dw i’n swp sâl, yn wafflo a malu cachu.

“Ond mi fedra’ i gysgu’r nos yn hapus; mae unrhyw beth dw i wedi’i neud, dw i wedi’i gael o ar merit.”

Ar Drywydd y Duwiau, Emlyn Gomer Roberts, Gwasg Gwynedd, £9.95

Gweddill y stori yn Golwg, Ebrill 15