Mae Cynghrair Cyhoeddwyr a Chyfansoddwyr Cerddoriaeth Cymru wedi cael arian gan Lywodraeth Cymru i ymchwilio i’r posibilrwydd o sefydlu corff casglu breindal yng Nghymru.

Hyd yma mae cyfansoddwr pob cân sy’n cael ei chofrestru gyda’r PRS yn cael tâl fel cydnabyddiaeth am chwarae’r gerddoriaeth yn gyhoeddus.

Mae tafarndai a chaffis yn talu ffi flynyddol i’r PRS er mwyn cael chwarae cerddoriaeth gyda’r PRS wedyn yn penderfynu faint o arian i’w dalu nôl i’r cyfansoddwyr.

Ond fe allai’r drefn newid ar ôl i Lywodraeth Cymru benderfynu talu am ymchwil i’r posibilrwydd o sefydlu corff casglu annibynnol i Gymru.

“Rydym wedi rhoi £28, 600 i Gynghrair Cyhoeddwyr a Chyfansoddwyr Cerddoriaeth Cymru fedru talu am astudiaeth i sefydlu Corff Casglu Cymreig,” meddai llefarydd.

Cwmni Cambrensis mewn cydweithrediad â Deian ap Rhisiart fydd yn creu cynllun busnes ar gyfer sefydlu’r corff casglu allai achub y Sîn Roc Gymraeg.


Gweddill y stori yn Golwg, Ebrill 15