Mae Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams, wedi lansio maniffesto’r blaid heddiw gan ddweud y byddai “y rhan fwyaf” o bobol y wlad yn elwa.
Wrth ganol y maniffesto mae’r addewid i godi’r rhiniog treth i £10,000 ac fe fyddai hynny yn atal 200,000 o bobol Cymru rhag gorfod talu treth incwm o gwbl, meddai.
Fe fyddai hefyd yn rhoi £700 yn ôl i 800,000 o bobol eraill ar gyflogau isel a chanolig, meddai.
“Byddai’r rhan fwyaf o ddinasyddion Cymru yn elwa o’r cynigion yma,” meddai.
Fe fydden nhw’n talu am y gostyngiad treth drwy godi trethi ar enillion cyfalaf, torri pensiynau pobol sy’n ennill mwyaf, codi trethi ar hedfan a chodi treth ychwanegol ar dai sydd werth dros £2 miliwn.
Wrth lansio’r maniffesto yng Nghaerdydd dywedodd Kirsty Williams bod y “cynllun yn heriol ond yn llawn synnwyr cyffredin ac yn cyfleu neges ddifrifol”.
“Bydd pobol yn dod i ddeall bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn gyfaill yn y frwydr i adeiladu Cymru well.”
Dywedodd Kirsty Williams bod traean plant Cymru yn cael eu geni i dlodi mawr, a bod eu haddysg yn cael £500 yn llai na disgyblion yn Lloegr.
Bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn mynd i mewn i’r etholiad fel ail blaid fwyaf Cymru, gyda phedwar o’r 40 sedd.
Ond maen nhw’n wyneb bygythiad chwyrn gan Blaid Cymru yng Ngheredigion a’r Ceidwadwyr ym Maldwyn.
“Rydw i’n ffyddiog ein bod ni’n mynd i weld cynnydd yn yr etholiad yma,” meddai Kirsty Williams. “Fe wnaethon ni ddyblu nifer ein ASau yn 2005 ac r’yn ni’n ymgyrchu’n galed eleni.”