Mae dau aelod o blaid y Ceidwadwyr wedi gadael i ymuno â Llafur heddiw dros eu safle ar hawliau pobol hoyw.

Cyhuddodd Anastasia Beaumont-Bott (dde), cyn-bennaeth ymgyrch hoyw y Toriaid, y Ceidwadwyr o “dwyll clyfar” ynglŷn â’u polisi ar bobol hoyw.

Dywedodd hi nad oedd y blaid yn ei gyfanrwydd wedi newid y ffordd yr oedd o’n ymdrin â pobol hoyw, ac nad oedd unrhyw sôn am hawliau newydd yn y maniffesto.

Mewn cynhadledd i’r wasg wedi ei drefnu gan y Blaid Lafur dywedodd David Heathcote, 38, ei fod o wedi troi ei gefn ar y blaid ar ôl dwy flynedd ac ymuno â Llafur am ei fod o “wedi cael siom”.

Fe wnaeth y ddau gyfeirio at sylwadau ysgrifennydd gwladol yr wrthblaid Chris Grayling, wnaeth ddweud na ddylai perchnogion llety gwely a brecwast Cristnogol orfod derbyn cyplau hoyw.

Ymddiheurodd Chris Grayling am ei sylwadau yr wythnos diwethaf.

‘Bwlio’

Roedd Anastasia Beaumont-Bott, 20 oed, yn bennaeth grŵp hoyw a lesbiaidd y blaid am ddwy flynedd.

Dywedodd ei bod hi wedi dioddef bwlio homoffobic pan oedd hi’n ifanc ac nad oedd hi’n fodlon derbyn yr un driniaeth eto.

Dywedodd ei bod hi wedi meddwl bod y Ceidwadwyr yn sefyll dros ryddid a bod yn agored gyda’r cyhoedd.

“Roeddwn i eisiau credu yn y ddelfryd yr oedd [David Cameron] wedi ei gynnig – plaid Geidwadol oedd yn credu mewn newid,” meddai.

“Ond mae o’n dwyll clyfar wedi ei farchnata yn dda. Roeddwn i’n credu bod dyddiau homoffobia ar ben.”