Mae rhai o fyfyrwyr Cymraeg Prifysgol Bangor wedi dod ynghyd heddiw i “drafod pryderon” a threfnu ymgyrch i “achub a datblygu’r” Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor.

Tua hanner dydd fe gyfarfu criw o fyfyrwyr Cymraeg Prifysgol Bangor i drafod ymgyrch a llunio siarter o’u “gofynion a’u pryderon” ynglŷn â’r ddarpariaeth Gymraeg yn y Brifysgol.

“Mae llawer o’r myfyrwyr yn poeni na fydd na neb i barhau â’r addysg Gymraeg pan mae darlithwyr yn ymddeol neu’n gadael,” meddai’r myfyriwr ôl-radd Rhys Llwyd, un o arweinwyr yr ymgyrch.

“Mae eraill yn poeni eu bod fod ar hanner cyrsiau ar hyn o bryd, a ddim yn gwybod a fyddan nhw’n gallu gorffen y cyrsiau yn Gymraeg.”

Bygwth protestio

Dywedodd y byddai’r myfyrwyr yn cyflwyno’r siarter i’r Brifysgol yn fuan. Mae’r criw yn gobeithio y bydd tua 50 o bobol, gan gynnwys darlithwyr, yn bresennol yn y cyfarfod hwnnw.

Y “gobaith” yw y bydd y Brifysgol yn cefnogi’r siarter, meddai Rhys Llwyd.

Os na fydd y Brifysgol yn ei gefnogi, bydd y criw myfyrwyr yn mynd ymlaen â’r cam nesaf ac yn “protestio,” meddai.

“Mae’n drist ein bod ni’n siarad am gadw beth sy’n bodoli ac achub y Gymraeg yn lle datblygu. Mae’n dweud llawer am agwedd Prifysgol Bangor,” meddai.