Mae Dave Jones yn gobeithio cael dewis o sgwad sydd bron yn holliach wrth iddo anelu am sicrhau lle Caerdydd yn y gemau ail gyfle yn erbyn Queens Park Rangers dydd Sadwrn.

Gavin Rae a Miguel Comminges yw’r unig chwaraewyr fydd ddim ar gael wrth i Dave Jones.

Cafodd Gavin Rae, sy’n chwarae ynghanol cae dros Caerdydd a’r Alban, lawdriniaeth ar tendon rhwygiedig yn ei bigwrn chwith dydd Mawrth.

Fe wnaeth y chwaraewr rhyngwladol chwarae olaf y tymor yma yn ystod buddugoliaeth 2-1 Caerdydd dros Abertawe dydd Sul y Pasg.

Mae Michael Chopra wedi anafu ei wddf a bu’n rhaid iddo adael yn ystod hanner amser y gêm 0-0 yn erbyn Reading dros y penwythnos, a methodd Joe Ledley a Kelvin Etuhu orffen y 90 munud ar ôl cyfnodau hir heb chwarae oherwydd anafiadau.

Ond fe ddylai’r tri fod yn barod i wynebu Rangers, ac mae capten y clwb Mark Hudson wedi dychwelyd i hyfforddi yr wythnos hon ar ôl deufis oddi ar y cae i wella wedi llawdriniaeth i’w ffêr.