Mae capten llong o China a’i brif swyddog wedi eu harestio a’u cyhuddo o achosi difrod i’r Barriff Mawr, meddai heddlu Awstralia heddiw.

Daw’r penderfyniad i gyhuddo dros wythnos ar ôl i’w llong, oedd yn cario glo, daro’r barriff gan ollwng olew a rhwygo twll dwy filltir o hyd yn yr ardal sydd wedi ei hamddiffyn.

Dywedodd Heddlu Ffederal Awstralia y byddai capten y llong a’i brif swyddog yn mynd o flaen eu gwell yfory.

Mae’r capten 47 oed wedi ei gyhuddo o fod yn gyfrifol am long a achosodd niwed i warchodfa natur, ac fe allai wynebu dirwy o fwy na £30,000.

Mae’r prif swyddog 44 oed wedi ei gyhuddo o fod yn gyfrifol am y  llong ar 3 Ebrill pan achoswyd y difrod, ac mae’n wynebu hyd at dair blynedd yn y carchar neu ddirwy o hyd at $220,000 (£132,450).