Fe fydd pensaer blaenllaw ym Mhrifysgol Caerdydd yn chwarae rôl ganolog wrth adeiladu teml Hindŵ mewn arddull pensaerniol sydd heb ei ddefnyddio am dros saith can mlynedd.
Mae Dr Adam Hardy o Ysgol Pensaernïaeth Prifysgol Caerdydd, sy’n arbenigo mewn pensaernïaeth temlau India, wedi’i gomisiynu i ddylunio teml Hindŵ yn India a hynny yn arddull 12fed ganrif llinach Hoysala, de India.
Mae Sefydliad Celf Shree Kalyana Venkateshwara Hoysala – y sefydliad y tu ôl i’r cynllun – wedi dod a rhwydwaith o gerflunwyr arbenigol at ei gilydd er mwyn chwarae rhan yn y cynllun.
“Mae’n bosibl dysgu traddodiad pensaernïol – fel traddodiad cerddorol neu lenyddol. Mae’n gallu cael ei basio i lawr gan arbenigwyr,” meddai Adam Hardy wrth ymweld â safle posibl y deml yn India.
“Creadigaeth newydd”
“Mae’r cynllun yn arbennig o gyffrous i mi oherwydd nid copi o deml ganoloesol y maen nhw’n gofyn amdano, ond creadigaeth newydd sy’n seiliedg ar hen draddodiad.
“O fewn rheolau’r bensaernïaeth hwnnw fe fydd hi’n bosibl creu ffurfiau newydd.”
Yn ystod ei ymweliad ag India, cyfarfu Adam Hardy a crefftwyr fyddai’n gweithio ar y deml ac ymweld â chwareli i wneud yn siŵr fod trawstiau o’r maint cywir ar gael.
Fe fydd y deml yn cael ei hadeiladu allan o garreg wedi’i cherfio gyda llaw ac yn cael ei lleoli yn Venkatapura, ger Nangali yn Ardal Kolar, Karnataka tua 60 milltir o Bangalore.