Mae’r cerddor Lowri Evans wedi dweud wrth Golwg360 ei bod yn “anhapus” na chafodd wybod ei bod ar restr fer gwobrau Roc a Pop BBC Cymru C2.

Fe gafodd Lowri Evans ei rhoi ar restr fer gwobr Artist Benywaidd 2010, ynghyd â Cate Le Bon, Cerys Matthews a Fflur Dafydd (a enillodd y wobr.)

Doedd y cerddor o Sir Benfro, un o gystadleuwyr Cân i Gymru eleni, “ddim yn gwybod dim” ei bod ar y rhestr fer tan noson cyhoeddi’r enillwyr, meddai wrth Golwg360.

“Nos Wener diwethaf , noson cyhoeddi’r enillwyr es i ar dudalen Fflur Dafydd ar Facebook, ac roedd linc i Radio C2 yno. Dyna pryd wnes i ffendio mod i ar y rhestr fer,” meddai.

‘E-bost’

“Dw i’n meddwl dylai bod rhywun o’r BBC fod wedi trafferthu gyrru e-bost i mi a chysylltu i ddweud fy mod i arno,” meddai.

“Mi faswn i ‘di gallu hala newsletter i bobl wedyn yn son am y gwobrau a’r enillwyr.

“Ro’ ni’n anhapus am nad oeddwn i’n gwybod dim am y peth. Mae’n debyg fod yr enwau wedi’u cyhoeddi ar y we ers y dydd Llun!”

Yn ôl Lowri Evans, roedd Fflur Dafydd yn “llawn haeddu’r wobr”. Fe ddywedodd nad oedd ganddi “broblem gyda hynny o gwbl”.

Meddai llefarydd ar ran BBC Cymru:

“Dydyn ni ddim yn arfer cysylltu gyda phawb sy’n ymddangos ar restrau byr RAP fel y cyfryw, ond yn hytrach ddatgelu’r rhestrau ar raglenni Radio Cymru, gwefan C2, tudalennau facebook C2 ac yn y wasg.”