Mae plaid UKIP wedi cyhoeddi heddiw y byddai’n cael gwared ag ACau o Gynulliad Cymru a’i lenwi gydag ASau a fyddai’n treulio un wythnos bob mis yn delio â materion Cymreig.

Wrth lansio eu hymgyrch yng Nghymru ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol, dywedodd UKIP eu bod nhw eisiau torri’n ôl ar nifer y gwleidyddion a rhoi materion datganoledig yn ol yn nwylo ASau.

Fyddai adeilad y Senedd ddim yn cael ei ddymchwel ond fe fyddai’r Cynulliad yn cael ei ddileu a dim ond ASau fyddai’n cwrdd yno.

Yr un patrwm trwy wledydd Prydain

Dywedodd y blaid wrth-ewropeaidd y byddai’r un peth yn digwydd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac y byddai ASau Lloegr yn cael cwrdd i drafod materion a fyddai’n effeithio Lloegr yn unig yn San Steffan.

Am y tro cyntaf erioed fe fydd gan UKIP ymgeisydd ym mhob un o’r 40 etholaeth yng Nghymru, gan obeithio adeiladu ar lwyddiant y blaid yn Etholiad Ewropeaidd y llynedd.

Fe fyddai’r blaid hefyd yn cael gwared â’r Fformiwla Barnett sy’n penderfynu ar faint cyllideb Llywodraeth y Cynulliad, gan ddweud ei fod o’n “anfantais i Loegr”.

Yn y lansiad yng Nghaerdydd ymosododd ASE UKIP, John Bugton, ar y Cynulliad am adeiladu swyddfeydd ledled Cymru.

“Maen nhw’n creu ymerodraeth yng Nghymru a dw i’n dweud fod hynny’n anghywir,” meddai. “Mae yna ormod o wleidyddion. R’yn ni’n dweud bod y cyhoedd wedi cael digon o hyn.

“Byddai’n well petai’r Senedd yn wag na’i fod o’n llawn gwleidyddion a biwrocratiaid diangen.”

Dywedodd bod y prif bleidiau wedi methu a gwneud unrhyw beth am y prif faterion oedd yn her i ddyfodol Prydain, sef yr economi a mewnfudo.

Yn ei faniffesto mae’r blaid yn dweud y bydden nhw’n atal pobol rhag dod i setlo’n barhaol ym Mhrydain am bum mlynedd ac yn gwahardd Mwslemiaid rhag gwisgo’r burkha.

Fe fyddai pobol Cymru hefyd yn cael diwrnod i ffwrdd at Ddydd Gŵyl Dewi, ychwanegodd.