Mae ymgyrchwyr hawliau cyfartal i bobol hoyw wedi condemnio sylwadau gan Gardinal yn y Fatican oedd yn cysylltu cam-drin plant gyda gwrywgydiaeth.

Gwadodd Tarcisio Bertone, Ysgrifennydd Gwladol y Vatican, mai gwrthod cael rhyw oedd ar fai am y gamdriniaeth.

Ond yn ôl adroddiadau dywedodd wrth y wasg yn Chile fod ymchwil wedi dangos cysylltiad rhwng gwrywgydiaeth a paedoffilia.

“Mae nifer o seicolegwyr wedi dangos nad oes cysylltiad rhwng gwrthod cael rhyw a paedoffilia,” meddai.

“Ond mae eraill wedi dangos, yn ôl beth mae pobol wedi dweud wrtha’i, fod yna gysylltiad rhwng gwrywgydiaeth a paedoffilia. Mae hynny’n wir. Dyna yw’r broblem.”

Dywedodd Peter Tatchell, llefarydd ar ran ymgyrch Protest the Pope, bod y sylwadau yn “ffiaidd”.

“Mae’r Fatican yn ceisio tynnu sylw oddi ar droseddau rhywiol y glerigiaeth drwy feio pobol hoyw. Mae hynny’n ffiaidd.

“Y gwir yw bod offeiriaid ac esgobion wedi cam-drin hogiau a merched fel ei gilydd. Does yna ddim cysylltiad o gwbl rhwng paedoffilia a pherthynas cariadus rhwng oedolion hoyw.

“Mae’n dangos sut mae anonestrwydd a homoffobia wedi llygru’r Fatican.”

Dywedodd Tony Green, llefarydd ar ran y Symudiad Cristnogol Hoyw a Lesbiaidd, bod y Fatican “mewn llanast”.

“Dydyn nhw heb ddysgu’r wers bwysig – pan ydach chi mewn twll, rhowch gorau i dyllu,” meddai.