Mae Tîm achub mynydd yng Ngogledd Cymru wedi darganfod corff dyn mewn pwll yn Eryri, ddoe.
Fe wnaeth aelodau Tîm Achub Mynydd Ogwen ddarganfod y corff ar ben Rhaeadr Fawr i’r de o bentref Abergwyngregyn.
Fe gafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i’r digwyddiad am 5.40pm neithiwr.
Fe ddywedodd Heddlu Gogledd Cymru wrth Golwg360, eu bod nhw’n trio cadarnhau beth sydd wedi digwydd, ond dydyn nhw ddim yn credu ei fod o’n ddigwyddiad amheus ar hyn o bryd.