Mae pobol o hil gymysg yn cael eu hystyriedyn “fwy deniadol” na phobl sydd a rhieni o’r un hil, yn ôl astudiaeth gan Brifysgol Caerdydd.
Fe wnaeth Dr Michael Lewis o Ysgol Seicoleg, Prifysgol Caerdydd, gasglu samplau ar hap o wynebau 1205 o bobl ddu, gwyn, a hil gymysg.
Yna, roedd pobol yn nodi pa mor ddeniadol oedden nhw’n credu oedd yr wynebau – gydag wynebau hil-gymysg, ar gyfartaledd, yn cael eu gweld yn ‘fwy deniadol.’
Bydd Dr Michael Lewis o’r Brifysgol yn cyflwyno ei ganfyddiadau i gyfarfod blynyddol Cymdeithas Seicolegol Prydain heddiw.
Heini
“Mae’r canlyniadau yn cadarnhau i raddau bod pobl o gefndiroedd genetig amrywiol, ar gyfartaledd yn cael eu hystyried yn fwy deniadol na rhai o gefndiroedd llai amrywiol,” meddai.
Awgrymodd Charles Darwin yn 1876 fod plant o fwy nag un hil yn fwy heini na’u rhieni.
Ymysg y bobol o fwy nag un hil enwocaf mae’r actores Halle Berry, y gyrrwr Fformiwla 1 Lewis Hamilton ac Arlywydd yr Unol Daleithiau Barack Obama.