Gwylio fideo o Cefin Campbell ac Alun Charles yn cyflwyno’r adroddiad o blaid creu ysgolion 3-19 oed yn Llandysul a Thregaron ar Flog Golwg 360

Mae adroddiad ar gyfer addysg yng Ngheredigion wedi awgrymu cau 12 ysgol gynradd ac uwchradd ac agor dwy ysgol 3-19 oed yn eu lle.

Mae’r adroddiad gan Cefin Campbell ac Alun Charles, dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Elystan Morgan, yn dweud y dylid adeiladu dwy ysgol 3-19 oed, un yn Llandysul a’r llall yn Nhregaron.

Yn ardal Llandysul byddai Ysgolion Uwchradd Dyffryn Teifi yn cau, yn ogystal ag ysgolion cynradd Llandysul, Coed-y-bryn, Aber-banc, Pont-siân a Chapel Cynon.

Yn ardal Tregaron byddai Ysgol Uwchradd Tregaron yn cau, yn ogystal ag Ysgolion Cynradd Tregaron, Llanddewi Brefi, Llangeitho, Bronant, Lledrod a Phenuwch yn cau.

Ond mae’r adroddiad yn argymell cynnal Ysgol Pontrhydfendigaid fel ysgol ardal ffederal 3 – 11 i’r ysgol newydd yn Nhregaron.

Mae hefyd yn argymell datblygu un o’r adeiladau presennol fel uned Cyfnod Sylfaen ffederal 3-7 oed yn ardal Llangeitho, Penuwch a Bronnant.

Byddai’r ysgolion ‘syth drwyddo’ 3-19 yn golygu bod yr holl ddisgyblion wedi’u lleoli ar yr un campws ond yn cynnwys adeiladau ar wahân ar gyfer y sectorau uwchradd a chynradd. Byddai un corff llywodraethol ar gyfer yr ysgol gyfan.

Fe fydd cyfarfod cyhoeddus yn Ysgol Dyffryn Teifi heno a chyfarfod arall yn Nhregaron nos yfory i rieni gael rhoi eu barn ar yr argymhellion.

Yn wreiddiol roedd y cyngor wedi gosod embargo ar ddatgelu y cynlluniau tan fod y ddau gyfarfod wedi cael eu cynnal ond heddiw codwyd yr embargo.

Ar ôl y cyfarfodydd cyhoeddus fe fydd y panelwyr Elystan Morgan, Alun Charles a Cefin Campbell yn cwrdd â’r llywodraethwyr ddiwedd y mis er mwyn dod i benderfyniad.

Mae’r cyngor sir yn amcangyfrif y bydd creu un o’r ysgolion 3-19 oed yn costio £30 miliwn.

“Ry’n ni wedi pendroni, ystyried, ail-ystyried, a chael oriau hir o drafod,” meddai Cefin Campbell.

“Ry’n ni’n llawn sylweddoli pwysigrwydd hyn fel model o ddarpariaeth addysg mewn ardaloedd gwledig.”