Mae’r heddlu yn Kansas wedi dod o hyd i chwe phen a darnau eraill amrywiol o gyrff pobol mewn tryc yn nhalaith Kansas.
Daethpwyd o hyd i fagiau plastic llawn darnau o gyrff mewn 12 twb mawr coch mewn tryc tu allan i adeilad canolfan gwastraff meddygol Stericycle yn Kansas City.
Roedd label llongau The Learning Centre, rhan o gwmni o Albuquerque, yn nhalaith New Mexico ar bob twb. Mae’r cwmni’n dosbarthu cyrff ar gyfer ymchwil meddygol.
Dywedodd llefarydd ar ran Stericycle na fydden nhw’n cynnig sylw ar y mater.
“D’yn nhw ddim i fod i yrru cyrff fan hyn,” meddai crwner Sir Wyandotte, Alan Hancock. “Maen nhw fod i’w hamlosgi nhw, eu rhoi nhw mewn wrn a’u rhoi nhw i’r teuluoedd.”
Dywedodd fod gweithwyr Stericycle wedi codi amheuon wythnosau yn ôl ar ôl dod o hyd i ben mewn adeilad llosgi. Roedd cyrff dau ddyn a dynes ymysg y darnau yn y tryc, meddai.