Fe fydd Comisiynydd plant Cymru yn cyfarfod gyda swyddogion yr Urdd yr wythnos hon i drafod eu penderfyniad i werthu Alcohol at faes yr Eisteddfod.
Fe ddywedodd llefarydd ar ran Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru wrth Golwg360 mai bwriad y cyfarfod fydd “casglu mwy o wybodaeth am benderfyniad yr Urdd i weini alcohol.”
Nid oes dyddiad pendant ar gyfer y cyfarfod eto. Ond, mae’r Swyddfa wedi dweud heddiw y bydden nhw’n anfon datganiad yn egluro safbwynt Comisiynydd Plant Cymru ar ôl y cyfarfod ac na fydden nhw’n dweud unrhyw beth o flaen llaw.