Mae tîm achub yn Indonesia yn ceisio dod o hyd i gorff teithiwr o Sweden ddisgynnodd mewn i gawg Llosgfynydd byw ar ynys Bali.
Roedd y dyn 25 oed a dau o’i ffrindiau yn cerdded cyn y wawr heddiw ar hyd ymyl cawg mynydd 5,633 troedfedd Batur pan gwympodd .
Dywedodd yr heddlu bod achubwyr wedi gweld corff y dyn tua 500 troedfedd mewn i’r cawg. Maen nhw’n credu ei fod wedi marw.
Mae Mynydd Batur, sydd tua 40 milltir o’r brifddinas ranbarthol Denpasar, wedi ffrwydro 26 gwaith ers 1840. Dydi o heb ffrwydro ers y flwyddyn 2000 ond mae’n gollwng stem yn aml.