Mae arweinwyr Plaid Cymru a’r SNP wedi datgelu cynllun ar y cyd er mwyn sicrhau cytundeb gwell i Gymru a’r Alban pe bai yna senedd grog ar ôl yr Etholiad Cyffredinol.
Dywedodd Ieuan Wyn Jones, Dirprwy Brif Weinidog Cymru, ac Alex Salmond, Prif Weinidog yr Alban, fod yna bedwar rhan allweddol i’r cynllun:
• Arian teg i Gymru a’r Alban
• Gwarchod gwasanaethau lleol a’r mwyaf bregus
• Gweithredu i helpu’r economi werdd
• Cefnogi twf mewn busnesau
“Yn eu ras i fachu’r goriadau i Rif 10 mae pleidiau Llundain wedi anghofio beth sydd wir o bwys i bleidleiswyr yn yr Alban a Chymru ond dyw Plaid a’r SNP ddim wedi anghofio,” meddai Ieuan Wyn Jones.
“Mae’n fwy a mwy tebygol y bydd yna senedd grog ac r’yn ni’n credu mai etholiad heb fwyafrif clir i’r un o’r pleidiau fyddai’r canlyniad gorau i’n gwledydd ni.
“Byddai cynghrair Celtaidd rhwng Plaid a’r SNP mewn sefyllfa gref i sicrhau budd go iawn i bobol Cymru a’r Alban.
“Y mwyaf o bobol sy’n pleidleisio dros Plaid a’r SNP, y gorau fydd y cytundeb i Gymru a’r Alban. Mae o’n gyfle cyffrous i wneud gwahaniaeth.”
Dywedodd Alex Salmond bod y Blaid Lafur a’r Torïaid yn bygwth toriadau dwfn allai wneud niwed i adferiad Cymru a’r Alban.
“Mae’r Canghellor Alistair Darling eisoes wedi cyfaddef y byddai’r toriadau yn llymach a dyfnach na rhai Margaret Thatcher,” meddai.
“Fel y mae pethau mae gan Lywodraeth Prydain ryddid i slaesio cyllid Cymru a’r Alban fel y maen nhw eisiau.”