Mae Heddlu De Cymru’n apelio am dystion yn dilyn damwain ffordd ddifrifol tua 20:30 dydd Llun, 29 Mawrth ar yr A4055.
Roedd dyn 22 oed yn gyrru car modur Ford Focus ST gwyn – pan wyrodd y cerbyd oddi ar y lon â tharo coeden. Roedd dynes yn teithio yn y sedd flaen.
Mae’r Heddlu’n awyddus i siarad ag unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, ac a wnaeth stopio i helpu, neu unrhyw un a welodd y cerbyd yn cael ei yrru cyn y gwrthdrawiad.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu De Cymru ar 029 20 5716 00 neu 101.