Mae ymgyrchydd sy’n gwrthwynebu adeiladu Wylfa B yn teimlo fod grŵp ymgyrchu PAWB wedi “profi pwynt” mewn protest yn ystod yr awr brysura ar Bont Menai bore ‘ma.

Fu fu ymgyrchwyr grŵp ‘Pobl Atal Wylfa B’, ac aelodau o gymdeithasau ac undebau eraill, yn protestio ar ochor Ynys Môn y bont rhwng wyth a naw’r bore i wrthwynebu cynlluniau cwmni Horizon i godi ail atomfa ar yr Ynys.

Roedd tua 40 o ymgyrchwyr o Fôn ac Arfon yn rhan o’r brotest, ac fe fyddai mwy wedi bod yna heblaw am y tywydd garw, meddai Dylan Morgan o PAWB.

“Roedd placardiau a baneri yno a rhai wedi gwisgo mewn siwtiau gwyn fel boiler suits i warchod yn erbyn perygl ymbelydredd,” meddai Dylan Morgan.

“Roedd llawer yn codi llaw ac yn canu corn mewn cefnogaeth. Yn sicr, roedd bore ‘ma werth ei wneud.”

Yr Awr ‘fwriadol’

“Roedden ni wedi dewis awr y brotest yn fwriadol. Roedd traffig yn drwm bore ‘ma – fel mae o bob dydd o Ynys Môn i’r tir mawr,” meddai.

“Beth tasa ’na ddamwain yn digwydd yn y Wylfa – sut fyddai pobl Ynys Môn yn dianc?”

“Yr un peth amlwg, er gwaethaf ffanffer cyhoeddiad Horizon ddoe, yw nad ydyn nhw callach beth maen nhw’n bwriadu’i wneud gyda’r sefyllfa storio gwastraff.

Fe ddywedodd yr ymgyrchydd wrth Golwg360 ei fod yn gobeithio “trefnu cyfarfod cyhoeddus” cyn hir.

“Mae angen i ni ledaenu’r neges yn ogystal â phrotestio ar y stryd,” meddai.