Mae Arlywydd Ffrainc, Nicolas Sarkozy wedi cefnogi galwad Barack Obama am fwy o sancsiynau yn erbyn Iran, gan ddweud na allai’r wlad barhau â’i “ras ynfyd” i gael gafael ar arfau niwclear.
Dywedodd yr Arlywydd Barack Obama ddoe ei fod o’n gobeithio sicrhau bod sancsiynau newydd yn dod i rym “o fewn wythnosau” ond cyfaddefodd nad oedd ganddo gefnogaeth rhai o wledydd pwysicaf y Cenhedloedd Unedig eto.
“Does gen i ddim cefnogaeth unfrydol y gymuned ryngwladol eto,” meddai. “Mae hynny’n rhywbeth y bydd rhaid i ni weithio arno.”
Ychwanegodd ei fod o a Nicolas Sarkozy yn credu “yn union yr un peth,” wrth i’r ddau arweinydd gwrdd yn Washington.
“Mae’r amser wedi dod i benderfynu beth i’w wneud,” meddai Nicolas Sarkozy.
Mae Iran yn mynnu eu bod nhw’n ceisio creu gorsafoedd pŵer niwclear yn hytrach nag arfau niwclear.
Dyw Rwsia a China, sy’n rhan o Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig, heb lwyr gefnogi’r syniad o sancsiynau llymach yn eu herbyn eto.
Dywedodd Barack Obama ei fod o’n deall y gall rai gwledydd sy’n dibynnu ar Iran am olew fod ag amheuon ynglŷn â’r sancsiynau.
Ond ychwanegodd nad oedd unrhyw arwydd bod y wlad am roi gorau i’w raglen niwclear a’i fod o’n colli amynedd.
“Y gobaith yw y bydd hyn yn cael ei wneud yn y gwanwyn. Dw i ddim yn fodlon disgwyl misoedd am y sancsiynau,” ychwanegodd Barack Obama.