Llun: Eira yn Waunfawr ger Caernarfon bore ’ma.
Mae tua 30,000 o dai heb drydan ar ôl i dywydd gaeafol difrifol daro Prydain am yr ail ddiwrnod yn olynol.
Tarodd stormydd eira, gwynt cryf a glaw trwm yr Alban a Gogledd Iwerddon ddoe gan ddymchwel leiniau trydan a rhwystro pobol rhag teithio.
Heddiw fe fydd rywfaint o eira yn disgyn dros Gymru yn ystod y dydd, yng Ngwynedd, Conwy a Sir Ddinbych, meddai’r arbenigwyr. Mae disgwyl i’r tymheredd aros yn agos at ddim gradd Celsius gydol y dydd.
Mae’r Swyddfa Dywydd hefyd wedi rhyddhau rhybudd tywydd eithafol ar gyfer tair ardal yn yr Alban, gan ragweld 50cm o eira mewn rhai mannau.
Llun: Eira yn Mynydd Llandegai
Lluwchfeydd eira
Dywedodd cwmni Northern Ireland Electricity bod 30,000 o’u cwsmeriaid wedi colli eu trydan ar ôl difrod i’w leiniau trydan ddoe.
Bu’n rhaid achub 150 o bobol oedd yn sownd yn eu ceir ger Derry, ac fe gollodd un o ganolfannau achub yr heddlu bŵer.
Yng ngogledd-ddwyrain yr Alban oedd y tywydd gwaethaf, gyda chymysgedd o eira trwm a gwyntoedd cryfion yn creu lluwchfeydd eira mawr.
Roedd deg lori yn sownd am rai oriau ar yr M90 yn Swydd Perth a dau dryc yn sownd ar yr M8 ger Caeredin, gan arwain at oedi.