Bu nifer fawr o bobol yn sefyll yn y glaw i dalu teyrnged wrth i gyrff tri o filwyr gyrraedd yn ôl i wledydd Prydain o Afghanistan.
Cafodd Daniel Holkham, 19 oed, Jonathan Woodgate, 26 oed a Steven Campbell, 30 oed eu lladd yn rhanbarth Helmand yn gynharach yn y mis.
Cafodd y cyrff eu hedfan yn ôl i ganolfan yr Awyrlu yn Lyneham Swydd Wiltshire y bore yma ac yna fe gafodd yr eirch eu cludo drwy strydoedd tref fechan Wootton Bassett pnawn ma.
Unwaith eto fe fu’r trigolion lleol, perchnogion siopau a chyn filwyr yn dilyn y traddodiad diweddar o sefyll yn y brif stryd i dalu teyrnged drwy gynnal munud o dawlech er cof am y milwyr.
Mae cyrff mwy na 100 o filwyr wedi cael eu dychwelyd addref trwy Wooton Bassett ers mis Ebrill 2007.
Mae 278 o filwyr Prydeinig wedi marw yn Afghanistan ers i’r ymgyrch filwrol ddechrau yn 2001.