Fe gafodd cynghorydd ac ymgeisydd Cynulliad ei arestio ar amheuaeth yn dilyn digwyddiad mewn gwesty yn gynnar fore Llun.

Fe fydd cylchgrawn Golwg yn cyhoeddi manylion am y digwyddiad pan gafodd yr heddlu a’r gwasanaeth ambiwlans eu galw i westy’r Oakeley Arms ger Maentwrog.

Mae’r cylchgrawn yn deall bod y Cynghorydd Gwilym Euros Roberts wedi ei arestio a’i ryddhau’n ddiweddarach ar fechnïaeth yr heddlu.

Fe gadarnhaodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru bod “dyn 40 oed wedi ei ryddhau ar fechnïaeth” a’i fod wedi gorfod “bod yn bresennol yn swyddfa’r heddlu” heddiw.

Yn ôl y gwasanaeth ambiwlans, roedd “dau glaf wedi cael eu trin am anafiadau yn y fan a’r lle” – mae cylchgrawn Golwg yn deall mai gwraig Gwilym Euros Roberts oedd un ac mai dyn arall oedd y llall.

Mae Gwilym Euros Roberts yn gynghorydd sir ar ran plaid Llais Gwynedd ac yn ddarpar ymgeisydd iddi yn sedd Meirion-Dwyfor yn etholiadau’r Cynulliad.

Ar hyn o bryd, mae blog Gwilym Euros yn dyfynnu’r chwaraewr pêl-droed, Eric Cantona: “When the seagulls follow the trawler, it is because they think sardines will be thrown into the sea”.

Ymateb Gwilym Euros Roberts a rhagor o fanylion yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos yma.