Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu’r gefnogaeth gynyddol sydd i’w hymgyrch yn erbyn penderfyniad yr adran Cyllid a Thollau i orfodi ffermwyr i ddychwelyd eu ffurflenni treth ar werth dros y we.
Dywedodd Aelod Seneddol Gorllewin Clwyd, David Jones, y bydd yn erfyn ar gyfarwyddwr cyffredinol yr adran Cyllid a Thollau, Dave Hartnett i newid y penderfyniad.
‘Afresymol’
Mae’r AS yn pwysleisio bod y sefyllfa yn un afresymol gan nad oes gan nifer o ardaloedd yng Nghymru gysylltiad band-llydan o safon.
Mae gwefan ISPreview.co.uk, sef ffynhonnell annibynnol o wybodaeth am ddarparwyr gwasanaethau rhyngrwyd, wedi beirniadu’r penderfyniad hefyd.
Maen nhw wedi dweud bod penderfyniad yr adran Cyllid a Thollau yn “ymddangos yn afresymol” gan gofio nad yw cynllun Llywodraeth Prydain i ddarparu band-llydan o gyflymder 2Mbps i bawb yn y Deyrnas Unedig erbyn 2012 wedi’i orffen o bell ffordd.
‘Trafferthion’
“Mae’n amlwg nad yw’r adran Cyllid a Thollau yn gwerthfawrogi’r broblem sy’n wynebu ffermwyr a busnesau eraill mewn cymunedau gwledig”, meddai Gareth Vaughan.
“Mae nifer ohonom ni sy’n gweithio yn y diwydiant amaethyddol hefyd wedi ein magu cyn i’r defnydd eang o gyfrifiaduron gychwyn, ac rydym ni’n mynd i gael trafferth gyda hyn.”
‘Agwedd negyddol y llywodraeth’
Mae cyfarwyddwr busnes yr undeb, Emyr James eisoes wedi cysylltu gyda’r Adran Cyllid a Thollau i ofyn a oedd ‘na opsiynau eraill ar gael i ffermwyr sydd heb gyswllt band-llydan.’
Yn ôl Emyr James, ateb y Gwasanaeth Cyllid a Thollau oedd y gallai ffermwyr ofyn i deulu neu ffrindiau sydd â chyfrifiadur i’w cynorthwyo neu i dalu asiant i wneud y gwaith ar eu rhan.
“Mae hyn yn agwedd negyddol iawn gan y llywodraeth, sydd ddim yn dangos unrhyw werthfawrogiad o natur y sefyllfa i nifer o ffermydd bychain a chanolig eu maint.”
Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi dweud y bydd y gwasanaeth ar gael yn eu swyddfeydd sirol, lle bydd eu gweithwyr yn trosglwyddo taflenni treth ar werth dros y we ar ran y ffermwyr.