Mae’r Gweilch wedi arwyddo bachwr Caerlŷr, Mefin Davies ar gytundeb o ddwy flynedd.
Bydd cyn chwaraewr rhyngwladol Cymru yn ymuno gyda’r rhanbarth ar ddiwedd y tymor.
Mae Davies eisoes wedi chwarae dros y Gweilch ar ôl iddo wneud chwe ymddangosiad iddynt yn ystod tymor 2004/5.
Mae’r bachwr wedi chwarae 51 gêm i Gaerlŷr ers arwyddo yn 2007 gan sgorio dwy gais ac ennill Uwch Gynghrair Guinness Lloegr yn 2009.
Mae Davies hefyd wedi treulio cyfnodau gyda’r Rhyfelwyr Celtaidd, Caerloyw, Castell-nedd a Phontypridd.
Fe chwaraeodd ym mhob gêm i Gymru wrth iddynt gipio’r Gamp Lawn yn 2005.
‘Dod adref’
“Rwy’n dod adref i Gymru ac rwy’n edrych ‘mlaen yn fawr”, meddai Mefin Davies.
“Rwyf wedi cael trafodaethau hir gyda fy nheulu ac rydyn ni’n teimlo ei fod yn gyfle gwych ar yr adeg iawn.
“Rwyf wedi mwynhau fy hun gyda Chaerlŷr yn enwedig y tymor hwn felly bydd gennyf deimladau cymysg ynglŷn â symud.
“Byddaf am adael ar nodyn uchel cyn dychwelyd i Gymru”, ychwanegodd y bachwr.
‘Ased mawr’
Mae Cyfarwyddwr Perfformio’r Gweilch, Andrew Hore yn credu y bydd Mefin Davies yn ased mawr i’r rhanbarth.
“Mae Mefin yn parhau i berfformio’n gyson ar y lefel uchaf ac fe fydd yn ased i’r Gweilch ar y cae,” meddai Hore.
“Ond fel rhanbarth sy’n credu’n gryf mewn datblygu talent ifanc Cymreig, fe fydd Mefin yn gallu helpu datblygu chwaraewyr eraill hefyd,”ychwanegodd Andrew Hore.