Dywed Aelod Cynulliad Canol Caerdydd fod stori merch a’i brwydr yn erbyn y cyffur Mephedrone wedi’i pherswadio i gefnogi gwahardd y cyffur.

Ddoe, fe gyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cartref, Alan Johnson y bydd Mephedrone, sy’n gyfreithiol ar hyn o bryd – yn cael ei wahardd o fewn wythnosau.

Mewn sgwrs gyda Jenny Randerson, AC fe wnaeth merch sydd eisiau aros yn ddi-enw sôn am ei phrofiadau ar ôl defnyddio’r cyffur. Mae’r gwleidydd wedi’i galw’n ‘Cassie.’

Er mai dim ond am dair wythnos yr oedd ‘Cassie’ wedi bod yn cymryd y cyffur, fe ddaeth yn agos at ddinistrio’i bywyd a’i lladd, meddai’r gwleidydd.

“Fe wnaeth stori Cassie fy mherswadio’n syth y dylid gwahardd mephedrone – cynta’ byd – gorau’n byd,” dywedodd Jenny Randerson, AC.

Fe ddaeth y cyhoeddiad i wahardd y cyffur ar ôl i Alan Johnson dderbyn adroddiad gan ei brif ymgynghorydd cyffuriau, yr Athro Les Iversen.

Mae mephedrone wedi cael ei gysylltu gyda hyd at 25 o farwolaethau yn Lloegr a’r Alban ac fe fydd yn cael ei drin fel cyffur Dosbarth B yn fuan.