Mae cynlluniau cwmni i adeiladu gorsaf Ynni Wylfa B wedi ennyn ymatebion cymysg heddiw. Yfory, fe fydd Grŵp ymgyrchu PAWB yn gwrthwynebu’r cynlluniau mewn protest.
Yn ôl Llywodraeth Cynulliad Cymru, bydd datblygu ynni adnewyddol yn golygu llai o alw am orsafoedd ynni niwclear newydd yng Nghymru.
Daeth y datganiad hwn yn sgil y cyhoeddiad fod cwmni Horizon am fwrw mlaen gyda chynlluniau i adeiladu gorsaf niwclear ar safle’r Wylfa.
Dyw’r Llywodraeth ddim yn datgan yn uniongyrchol ei bod yn gwrthwynebu’r cynlluniau. Yn hytrach, mae’n dweud mai “mater i Lywodraeth y Deyrnas Unedig a’r Comisiwn Cynllunio” yw cynllun Wylfa B.
Serch hynny, fe fydd y Llywodraeth Cymru y cysylltu gyda’r holl rhanddeiliaid i sicrhau bod pobl leol yn cael y “budd mwyaf o’r orsaf bŵer newydd” – gan gynnwys sgiliau a chyfleoedd.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cefnogi’r alwad am ymchwiliad cyhoeddus i drin gwastraff yr orsaf newydd oherwydd “pryderon diogelwch.”
Croeso gan y llywodraeth yn Llundain
Ar y llaw arall, fe groesawyd cyhoeddiad Horizon gan Y Gweinidog Ynni yn Llundain, yr Arglwydd Hunt.
Dywedodd y bydd cenhedlaeth newydd o orsafoedd niwclear yn ein helpu i ‘leihau allyriadau carbon’ ac yn hybu’r economi drwy greu hyd at 9,000 o swyddi.
Cyngor Sir Ynys Môn
Mae Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, y Cynghorydd Clive McGregor, wedi croesawu’r cyhoeddiad gan Horizon Nuclear Power.
Dywed y byddai gorsaf niwclear newydd yn creu hyd at 800 o swyddi safon uchel, gan godi i 1,000 yn ystod y gwaith cynnal a chadw a hyd at 5,000 o swyddi yn ystod yr adeiladu.
Fe bleidleisiodd Cyngor Sir Ynys Môn o blaid adeiladu gorsaf bŵer niwclear newydd ym mis Mawrth 2006.
Ymateb – PAWB
Ond, mae llefarydd ar ran Pobl Atal Wylfa B (PAWB) wedi beirniadu “agenda economaidd” Cyngor Sir Ynys Môn heddiw ac wedi disgrifio’u cefnogaeth i gynlluniau’r Wylfa fel rhai “anghyfrifol.”
“Mae angen i Gyngor Ynys Môn gynnal trafodaeth agored, eang yn rhoi ystyriaeth lawn i’r holl wybodaeth sydd ar gael… Y manteision economaidd yw’r cyfan y mae’r Cyngor yn ei bwysleisio – mae hynny’n ddiog ac yn ddiddychymyg,” meddai Dylan Morgan o PAWB cyn dweud y bydd protest yn cael ei chynnal yfory i wrthwynebu’r cynlluniau.
“Rydan ni’n anelu i fynd â’r ymgyrch i lefel mwy gweledol,” meddai am y brotest gyntaf mewn cyfres yn gwrthwynebu cynlluniau datblygu’r Wylfa” meddai.