Mae S4C wedi cyhoeddi enw’r sianel newydd bydd yn cael ei lansio ar ddiwedd mis nesaf- sef S4C Clirlun.

Bydd S4C Clirlun yn cael ei ddarlledu ar Freeview HD yng Nghymru pan fydd yn lansio ar 30 Ebrill a bydd yn cyd-fynd â’r gwasanaeth manylder arferol.

Bydd y gwasanaeth newydd yn cynnig lluniau gyda mwy o fanylder na’r hyn mae gwylwyr yn arfer eu gweld ar y gwasanaethau cyfredol.

Yn ôl S4C, maen nhw wedi bod yn comisiynu rhaglenni ar ffurf Clirlun ers peth amser, gan gynnwys y gyfres am dirwedd Cymru Tir Cymru a ddangoswyd yn ddiweddar ar S4C ar ffurf manylder arferol.

Dywedodd y sianel Gymraeg eu bod yn bwriadu cynhyrchu eu holl raglenni ar ffurf Clirlun erbyn diwedd 2012.

Cynnig enw

Gofynnodd S4C i’w gwylwyr gynnig enw ar gyfer y sianel newydd ac fe gafodd Clirlun ei awgrymu gan Ann Evans o Grwbin yng Nghwm Gwendraeth.

“Fe fydd yn deimlad rhyfedd gwylio’r sianel newydd a minnau wedi dewis yr enw Clirlun,” meddai Ann Evans.

“Rydym yn mwynhau perthynas agos ac adeiladol gyda’n gwylwyr a rhoddwyd cyfle iddynt ddewis enw ein gwasanaeth newydd ac i fathu term newydd yn yr iaith Gymraeg”, meddai Prif Weithredwr S4C, Iona Jones.

‘Datblygiad cyffrous’

“Mae’r broses o newid i ddigidol yng Nghymru yn cyrraedd penllanw ar Fawrth 31 gyda throsiad y trosglwyddydd yng Ngwenfo a’i orsafoedd trosglwyddo cysylltiol. O hynny ’mlaen bydd S4C yn wasanaeth cwbl Gymraeg”, nododd Prif Weithredwr S4C.

Ar Fawrth 31, Cymru fydd y wlad gyntaf o fewn y Deyrnas Unedig i gwblhau’r trawsnewid i ddigidol a Chaerdydd fydd y brifddinas genedlaethol gyntaf i gwblhau’r newid.

“S4C Clirlun yw’n datblygiad cyffrous nesaf – datblygiad sy’n cynrychioli buddsoddiad creadigol, ariannol a thechnolegol arwyddocaol. Bydd yn wasanaeth newydd sbon sy’n cynnig lluniau o’r safon dechnolegol gorau posib ar blatfform Freeview HD,”ychwanegodd Iona Jones.

Bydd y sianel newydd ar gael o 30 Ebrill ymlaen i wylwyr sy’n derbyn eu gwasanaeth ar blatfform Freeview HD o drosglwyddyddion Gwenfô, Blaenplwyf a Mynydd Cilfái yn ne a gorllewin Cymru.

Bydd y gwasanaeth yn cael ei gyflwyno fesul rhanbarth, gyda gweddill Cymru yn gallu ei dderbyn ar Freeview HD erbyn mis Gorffennaf.