Bydd cyn fownser yn cael ei gyhuddo o herwgipio a llofruddio’r ferch ifanc, Milly Dowler o Swydd Surrey wyth mlynedd yn ôl.

Bydd Levi Bellfield, 41 oed hefyd yn cael ei gyhuddo o herwgipio merch ifanc arall, Rachel Cowers, y diwrnod cyn cipio Milly Dowler.

Fe gafodd Levi Bellfield ei gyfweld gan yr heddlu ynglŷn â marwolaeth Milly Dowler nifer o flynyddoedd yn ôl.

Diflannodd y ferch 13 oed wrth gerdded adref o’r ysgol yn Walton-on-Thames, Surrey, ar 21 Mawrth 2002.

Cafodd ei gweddillion eu canfod chwe mis yn ddiweddarach 30 milltir i ffwrdd yn Yateley Heath, Hampshire.

Bellfield yn wynebu tri cyhuddiad

Dywedodd Nigel Pilkington, cyfreithiwr adolygu Gwasanaeth Erlyn y Goron y bydd Levi Bellfield yn wynebu tri chyhuddiad.

Ychwanegodd y bydd yn cwrdd â theulu Milly Dowler i drafod ei benderfyniad.

Mae rhieni Milly Dowler wedi dweud eu bod yn gobeithio y bydd cyhuddo Levi Bellfield o lofruddio yn helpu sicrhau cyfiawnder.

Roedd swyddogion gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi cychwyn ystyried tystiolaeth yr heddlu mis Awst y llynedd. Roedd hyn yn cynnwys tystiolaeth newydd yn erbyn Levi Bellfield a gafodd ei ganfod ym mis Rhagfyr 2008.