Mae Tony Blair wedi canmol arweinyddiaeth y Prif Weinidog, Gordon Brown yn ystod argyfwng economaidd Prydain.

Wrth annerch aelodau Llafur yn ei gyn etholaeth yn Sedgefield, fe ddywedodd Tony Blair nad oedd Prydain wedi dod dros y trafferthion eto, ond fod y wlad ar y llwybr cywir oherwydd gweithredu Gordon Brown.

“Mewn cyfnod o beryg fe wnaeth Prydain a’r byd ymateb. Roedd angen profiad a hyder i wneud y penderfyniad i ymateb. Roedd angen arweiniad ac fe gafwyd hynny gan Gordon Brown”, meddai Tony Blair.

“Peth mawr” petai Llafur yn ennill

Roedd y cyn Brif Weinidog yn cydnabod y byddai’n “beth mawr” i Lafur ennill pedwerydd Etholiad Cyffredinol yn olynol – rhywbeth dyw’r blaid erioed wedi ei wneud yn y gorffennol.

Ond fe ychwanegodd bod y bwlch yn lleihau wrth i bleidleiswyr edrych yn fwy manwl ar yr hyn yr oedd gan y Torïaid i’w gynnig.

Dywedodd Tony Blair ei fod yn credu bod “dryswch” ynglŷn â safbwynt y Ceidwadwyr ar y materion polisi mawr.

“Maen nhw’n edrych fel eu bod nhw naill ai fel yr hen Blaid Dorïaid ac yn ceisio cuddio hynny, neu dyw’ nhw ddim yn siŵr pa ffordd i fynd. Dyw’r naill ffordd na’r llall ddim yn newyddion da,” meddai Tony Blair.