Mae peiriant gyrru atomau mwyaf y byd wedi creu record hanesyddol heddiw ar ôl llwyddo i gael pelydrau proton i daro yn erbyn ei gilydd gyda thair gwaith mwy o rym nag erioed o’r blaen.
Ers 11 diwrnod mae’r Large Hadron Collider wedi bod yn gyrru protonau o gwmpas twnnel 27km (16.8 milltir) o hyd o dan ddaear ar y ffin rhwng Ffrainc a’r Swistir ger Geneva.
Eisoes, maen nhw wedi cyrraedd cyflymder o 11,000 mil cylchrediad yr eiliad ac wedi taro yn erbyn ei gilydd er mwyn ceisio ail greu amgylchiadau’r cyfnod yn syth ar ôl y Glec Fawr.
Fe wnaeth gwyddonwyr yn ystafell reoli Sefydliad Ymchwil Niwclear Ewrop gymeradwyo heddiw wrth i’r gwrthdrawiadau cyntaf gael eu recordio.
“Saethu nodwyddau dros yr Iwerydd”
Eisoes roedd llefarydd ar ran CERN, y corff sy’n cynnal yr arbrawf wedi dweud fod yr arbrawf fel “saethu nodwyddau dros yr Iwerydd a gobeithio y bydden nhw’n taro’i gilydd hanner ffordd.”
Cafodd y peiriant ei sefydlu yn y Swistir yn 2008, ond fe ddaeth yr arbrawf i ben pan wnaeth gwahanol rannau orboethi ar ôl i ddarn o fara lanio ar y peiriant. Y gred yw mai aderyn a ollyngodd ddarn o baguette.