Bydd datblygu ynni adnewyddol yn golygu y bydd llai o alw am orsafoedd ynni niwclear newydd yng Nghymru, meddai Llywodraeth Cynulliad Cymru heddiw.
Daeth y datganiad hwn yn sgil y cyhoeddiad fod cwmni Horizon am fwrw mlaen gyda chynlluniau i adeiladu gorsaf niwclear ar safle’r Wylfa.
Dyw’r Llywodraeth ddim yn datgan yn uniongyrchol ei bod yn gwrthwynebu’r cynlluniau. Yn hytrach, maen dweud mai “mater i Lywodraeth y Deyrnas Unedig a’r Comisiwn Cynllunio” yw cynllun Wylfa B.
Serch hynny, fe fydd y Llywodraeth Cymru y cysylltu gyda’r holl rhanddeiliaid i sicrhau bod pobl leol yn cael y “budd mwyaf o’r orsaf bŵer newydd” – gan gynnwys sgiliau a chyfleoedd.
Croeso gan y llywodraeth yn Llundain
Ar y llaw arall, fe groesawyd cyhoeddiad Horizon gan Y Gweinidog Ynni yn Llundain, yr Arglwydd Hunt . Dywedodd y bydd cenhedlaeth newydd o orsafoedd niwclear y ein helpu i leihau allyriadau carbon
“A gan fod pob gorsaf yn gallu creu hyd at 9,000 o swyddi, mae nhw’n dda i’r economi hefyd,” meddai.
Ymchwiliad Cyhoeddus i drin gwastraff
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cefnogi’r alwad am ymchwiliad cyhoeddus i drin gwastraff yr orsaf newydd oherwydd “pryderon diogelwch.”
Mae “tipyn o ffordd i fynd” o ran delio gyda gwastraff niwclear meddai llefarydd heddiw.
Mae’n rhaid i unrhyw orsaf ynni niwclear gynnwys cynlluniau newydd ar gyfer rheoli gwastraff, meddai.
Ymateb Cyngor Sir Ynys Môn
Mae Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, y Cynghorydd Clive McGregor, wedi croesawu’r cyhoeddiad gan Horizon Nuclear Power.
Dywed y byddai gorsaf niwclear newydd yn creu hyd at 800 o swyddi safon uchel, gan godi i 1,000 yn ystod y gwaith cynnal a chadw a hyd at 5,000 o swyddi yn ystod yr adeiladu.
Dywedodd y Cynghorydd Clive McGregor: “Rwy’n croesawu’r cyhoeddiad yma yn fawr. Mae’n dod â ni gam yn nes at sicrhau gorsaf bŵer niwclear newydd yn yr Wylfa.”
“Rydym yn cyfarfod yn rheolaidd gyda Horizon i drafod y cynllun a’r buddiannau economaidd a chymdeithasol all ddod i Fôn.”
Fe bleidleisiodd Cyngor Sir Ynys Môn o blaid adeiladu gorsaf bŵer niwclear newydd ym mis Mawrth 2006.