Fe fydd meysydd chwarae’r clybiau hynny sydd wedi gwneud cais i ymuno gydag Uwch Gynghrair Cymru’r tymor nesaf yn cael eu harchwiliadau terfynol yr wythnos yma.

Bydd meysydd chwarae clybiau Uwch Gynghrair Cymru, ynghyd â’r clybiau hynny o’r Cymru Alliance a’r Cynghrair MacWhirter yn cael eu harchwilio fel rhan o’r broses o sicrhau’r drwydded angenrheidiol i gystadlu ym mhrif gynghrair Cymru’r tymor nesaf.

Mae’r clybiau yn cael eu hasesu yn ôl safonau eu stadiwms a’u datblygiadau ieuenctid yn ogystal ag agweddau eraill megis personél, gweinyddiaeth, cyfraith a chyllido.

Bydd corff trwyddedu’r Gymdeithas Bêl Droed Cymru yn cwrdd ar 9 Ebrill i drafod y ceisiadau.

‘Proses hir’

“Mae’r ymgeiswyr yn gweld y golau ar ddiwedd y twnnel ar ôl proses hir trwy gydol y tymor,” meddai Pennaeth Cystadlaethau Cymdeithas Bêl Droed Cymru, Andrew Howard.

“Rwyf innau a’r Swyddog Trwyddedu Clybiau, David Miller wedi bod yn cynorthwyo’r clybiau trwy gydol y broses.”

Mae gan glybiau tan yfory i anfon dogfennau a thystiolaeth sy’n cefnogi’r ceisiadau.

‘Gweithio’n galed’

“Rwyf ar ddeall bod rhai clybiau yn gweithio’n galed i gwblhau popeth ar amser ac rwy’n gobeithio cael sioc ar yr ochr orau pan fyddaf yn ymweld â’r clybiau’r wythnos yma,” meddai Andrew Howard.

Bydd Cymdeithas Bêl Droed Cymru yn rhoi gwybod i’r holl glybiau cyn cyhoeddi pwy sydd wedi llwyddo i sicrhau’r drwydded angenrheidiol.

Bydd hawl gan y clybiau hynny na chafodd drwydded i apelio yn erbyn y penderfyniad i bwyllgor annibynnol a fydd yn cwrdd ar 17 Mai.