Mae Kelvin Etuhu wedi dweud ei fod yn awyddus i anghofio am ei dymor “hunllefus” trwy helpu Caerdydd ennill dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair.
Mae’r chwaraewr sydd ar fenthyg o Man City wedi cael tymor rhwystredig iawn gyda cyfres o anafiadau yn ei atal rhag cyfrannu llawer i ymgyrch yr Adar Glas.
Ond gyda Jay Bothroyd wedi’i wahardd yn erbyn Crystal Palace dros y penwythnos, fe gafodd Etuhu gyfle i wneud ei ymddangosiad cyntaf mewn tri mis i’r clwb.
Tymor hunllefus
“Mae wedi bod y tymor mwyaf anffodus erioed – yn hunllef”, meddai Etuhu wrth bapur newydd yr Echo.
“Roeddwn i wedi anafu fy mhigwrn ar ddechrau’r tymor ac wrth i mi ddechrau chwarae eto cefais anaf i’r pigwrn arall a chollais dri mis arall o’r tymor”
“Roedd yn hwb mawr i mi pan ddywedodd y rheolwr fy mod i’n cychwyn yn erbyn Crystal Palace.”
Mae Etuhu yn awyddus i ganolbwyntio ar weddill y tymor, gan ddechrau yn erbyn Caerlŷr heno.
Mae’r ymosodwr yn credu pe bai’r Adar Glas yn gallu sicrhau eu lle yn y gemau ail gyfle, byddai ganddynt gyfle gwych i gyrraedd yr Uwch Gynghrair.