Mae Tîm Criced Morgannwg wedi cael cychwyn addawol i’w paratoadau ar gyfer y tymor newydd gan faeddu Swydd Northampton o 88 rhediad yn Ffordd Wantage.
Fe gafodd y gêm 40 pelawd ei leihau i un 20 pelawd ar ôl i’r glaw atal y gêm rhag dechrau ar amser.
Fe gychwynnodd Jim Allenby a Will Bragg yn addawol gan sgorio 68 cyn i Allenby gael ei ddal gan Vishal Tripathi oddi ar bowlio Theban Taravasi.
Cyfrannodd Tom Maynard chwe rhediad cyn i Taravasi gipio’i wiced.
Dwy wiced i chwaraewr newydd
Will Bragg, a sgoriodd 39 rhediad, oedd y nesaf i adael y cris ar ôl i Taravasi hawlio ei drydedd wiced o’r gêm.
Sgoriodd Gareth Rees 42 rhediad oddi ar 24 pêl i helpu’r Dreigiau gyrraedd 172/4.
Cafodd bowlwyr Morgannwg hwyl arni yn erbyn batio’r tîm cartref gyda’r chwaraewr newydd David Brown yn hawlio dwy wiced.
Fe gipiodd James Harris dwy wiced hefyd i Forgannwg gyda Jim Allenby a Chris Ashling yn cael wiced yr un wrth i Swydd Northampton orffen eu pelawdau ar 84/8.