Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi “peryglu ei enw da” meddai gwleidydd amlwg sy’n codi cwestiynau mawr am hygrededd y sefydliad ar ôl iddyn nhw “orliwio” bygythiad y ffliw moch.

Mae Paul Flynn, AS Llafur dros Orllewin Casnewydd ac Is Gadeirydd Pwyllgor Iechyd Cyngor Ewrop, wedi dweud wrth Golwg360 fod y Sefydliad ynghyd a chyrff iechyd cyhoeddus eraill wedi gwneud “camgymeriad enfawr” drwy orbwysleisio bygythiad y ffliw moch.

“Mae gwledydd ar draws y byd wedi gwario biliynau o bunnoedd yn mynd i’r afael â bygythiad y ffliw – oedd yn llawer llai na’r hyn yr oedd y Sefydliad wedi’i nodi i ddechrau,” meddai Paul Flynn.

Tanseilio hyder y cyhoedd

O ganlyniad i’r gorliwio, mae “dirywiad wedi bod yn hyder y cyhoedd” mewn gwasanaethau o’r fath, meddai Paul Flynn.

Ym Mhrydain, roedd yr “anghysondebau” yn yr amcangyfrifon am y nifer bobl a allai farw o’r ffliw o’i gymharu â realiti’r sefyllfa yn “ddramatig,” meddai.

Roedd yr Adran Iechyd wedi cyhoeddi y gallai 65,000 o bobol farw ar y dechrau. Ond, erbyn 2010 – roedd yr amcangyfrifon wedi gostwng i 1,000.

Erbyn Ionawr 2010, roedd llai na 5,000 wedi dal yr afiechyd a thua 360 wedi marw ohono, meddai.