Mae’r undeb llafur sy’n streicio yn erbyn British Airways yn bwriadu codi £700,000 i gefnogi’r aelodau.

Dywedodd undeb Unite y bydd y gronfa yn cael ei chreu drwy godi treth o 2% ar eu haelodau. Cafodd y cynnig ei gymeradwyo gan weithredwr cyffredinol yr undeb.

Dywedodd swyddogion bod cymryd y camau yma’n dangos penderfyniad yr undeb i barhau gyda’r ffrae dros swyddi a thorri ar gostau.

“Mae’n dangos bod Unite yn benderfynol o roi cefnogaeth lawn i’r aelodau yn ystod y frwydr yn erbyn bwlis BA,” meddai Tony Woodley, pennaeth ar y cyd undeb Unite.

Mae staff BA wedi bod yn streicio eto heddiw yn dilyn streic yr wythnos diwethaf sydd yn ôl y cwmni awyrennau wedi costio £50m iddynt.

Ond mae Unite yn honni bod y streicio wedi costio yn agosach i £100m i British Airways.