Bydd mam o Gymru yn disgwyl yn eiddgar heddiw wrth i gwest i farwolaeth ei mab gafodd ei ladd yn Ecwador gael ei gynnal yng Nghasnewydd.
Fe gafodd Benjamin Samphire, 31, Cadwraethwyr o Fryste ei saethu’n farw ger pentref El Palmar yn ystod ymweliad â’r wlad yn ne America, fis Chwefror y llynedd.
Mae ei fam, Elizabeth Samphire, 65 yn byw yn y Fenni, De Cymru.
Mae awdurdodau’n credu fod Benjamin Samphire wedi’i saethu yn ei gefn gan dirfeddiannwr a wnaeth ei gamgymryd am leidr.
Roedd wedi teithio i Ecwador i astudio math arbennig o fwnci.
Bydd y cwest i’w farwolaeth yn cael ei gynnal bore’ma yng Nghanolfan ddinesig Casnewydd.