Mae llefarydd ar ran Pobl Atal Wylfa B (PAWB) wedi beirniadu “agenda economaidd” Cyngor Sir Ynys Môn heddiw ac wedi disgrifio’u cefnogaeth i gynlluniau’r Wylfa fel rhai “anghyfrifol.”

Daw hyn wedi i ddau gwmni mawr gyhoeddi eu bod eisiau adeiladu gorsaf niwclear ar safle’r Wylfa. Mae Horizon – cynllun rhwng RWE ac E.on – wedi cyhoeddi eu bod yn bwriadu llunio cais cynllunio erbyn 2012 i geisio am ganiatâd i adeiladu gorsaf newydd yn yr Wylfa .

“Mae angen i Gyngor Ynys Môn gynnal trafodaeth agored, eang yn rhoi ystyriaeth lawn i’r holl wybodaeth sydd ar gael,” meddai Dylan Morgan, llefarydd ar ran Pobl Atal Wylfa B (PAWB) wrth Golwg360.

“Y manteision economaidd yw’r cyfan y mae’r Cyngor yn ei bwysleisio – mae hynny’n ddiog ac yn ddiddychymyg,” meddai Dylan Morgan sy’n gwrthwynebu’r cynlluniau.
Dywed fod cyfle amgen i ddatblygu ynni gwynt ar yr ynys, rhwng Môn a Manaw.

Horizon yn ceisio tanseilio’r brotest

Yfory, fe fydd PAWB yn cynnal eu protest gyhoeddus ac ôl Dylan Morgan, mae Horizon wedi amseru’r cyhoeddiad yn fwriadol, er mwyn tanseilio’r brotest.

“Rydan ni’n anelu i fynd â’r ymgyrch i lefel mwy gweledol,” meddai am y brotest gyntaf mewn cyfres yn gwrthwynebu cynlluniau datblygu’r Wylfa.

Fe fydd aelodau o Undeb Amaethwyr Cymru, Cyfeillion y Ddaear a Chymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cefnogi’r ymgyrch ‘fory, meddai.

“Does gan y Llywodraeth ddim ateb i’r broblem gwastraff – dydyn nhw ddim yn gwybod beth i’w wneud â gwastraff presennol.

“Ydy e’n gyfrifol ein bod yn trosglwyddo bygythiad iechyd drwy greu mwy o wastraff ymbelydrol perygl? Mae e’n gwbl anghyfrifol,” meddai Dylan Morgan.