Mae baneri yn hedfan ar hanner mast ar adeiladau llywodraeth Rwsia ac yn y Kremlin heddiw – wrth i’r wlad gynnal diwrnod cenedlaethol o alaru ar gyfer dioddefwyr ffrwydradau tiwb Moscow.

Heddiw, mae swyddogion Heddlu gyda gynnau ar batrôl ym mynedfeydd gorsafoedd tanddaearol y wlad ac mae diogelwch yn dynn ar ôl bomiau hunanladdiad ddoe.

Fe chwythodd dwy ddynes eu hunain i fyny ar drenau tanddaearol yn ystod oriau brig bore ddoe.

Bu degau farw yn y ddau ffrwydrad. Fe ddywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Argyfwng, Veronika Smolskaya fod y digwyddiad cyntaf wedi digwydd yng ngorsaf Lubyanka yng nghanol Mosgow a’r ail yng ngorsaf Parc Kultury, tua 45 munud yn ddiweddarach.

Bellach, mae’r wlad wedi cadarnhau fod 39 wedi marw o ganlyniad i’r ffrwydradau ar ôl i wraig farw mewn clinig ym Moscow gydag anafiadau difrifol.

“Dal a lladd”

Mae Prif Weinidog y wlad wedi addo dal a lladd y terfysgwyr oedd yn gyfrifol am ladd degau o bobl yn yr ymosodiadau ddoe.

Fe ddywedodd y swyddog Iechyd Andrei Seltsovsky wrth sianel newyddion Rossiya-24 fod pump allan o 71 yn yr ysbyty yn parhau mewn cyflwr critigol.

Mae Heddlu Rwsia wedi lladd nifer o arweinwyr gwrthryfelwyr Islamaidd ym mynyddoedd y Cawcasws yn y Gogledd yn ddiweddar, gan gynnwys un yn rhanbarth Kabardino-Balkariyayr wythnos diwethaf, a oedd yn codi ofnau streiciau gan wrthryfelwyr.

Mae trenau tanddaearol Moscow ymhlith y prysuraf yn y byd gydag oddeutu saith miliwn o deithwyr yn defnyddio’r gwasanaeth pob dydd.

Mae’r awdurdodau’n amau nifer o grwpiau am y digwyddiad gan gynnwys gwrthryfelwyr Chechnya a grwpiau yn ardal Gogledd y Cawcasws.

Yn dilyn yr ymosodiadau, mae dwsinau o gyfranwyr i dri safle gwe yn gysylltiedig ag al Qaida wedi ysgrifennu sylwadau yn canmol ymosodiadau ddoe.