Vince Cable, llefarydd economaidd y Democratiaid Rhyddfrydol, wnaeth ‘ennill’ y ddadl gyntaf o’i bath ar y teledu rhwng canghellorion y dair blaid fawr neithiwr.

Yn ôl pôl piniwn ar lein ar ôl y rhaglen ar Channel 4, roedd 36% yn meddwl mai Vince Cable wnaeth orau, tra bod Alistair Darling a George Osborne ar 32% yr un.

Yn ystod y ddadl roedd Alistair Darling wedi beirniadu’r Ceidwadwyr am hyrwyddo toriadau “cyn pryd” oedd yn “bygwth ein harwain ni’n ôl i mewn i ddirwasgiad”.

Yn y cyfamser dywedodd canghellor yr wrthblaid George Osborne bod y Llywodraeth wedi bod yn “wastraffus”.

“Yn lle mynd i’r afal â’r gwastraff nawr a rhoi’r gorau i wastraffu arian pobol, rydach chi eisiau codi trethi bron pawb yn yr ystafell yma a phawb sy’n gwylio gartref,” meddai.

“Nid dyna’r flaenoriaeth gywir pan mae angen i’r wlad ddod at ei hun, pan mae angen swyddi, pan mae incwm pobol yn cael ei wasgu.”

Roedd y ddadl awr o hyd o flaen cynulleidfa fyw yn rhagflad o’r dadleuon teledu rhwng arweinwyr y pleidiau fydd yn cael eu cynnal cyn yr Etholiad Cyffredinol.

Ymosododd Vince Cable ar y Ceidwadwyr gan ddweud: “George, yr wythnos diwethaf roeddech chi’n lladd ar arbedion effeithlonrwydd y llywodraeth gan ddweud eu bod nhw’n hollol ffug.

“Nawr rydach chi’n defnyddio’r un arbedion ffug er mwyn ariannu eich toriadau trethi eich hunain. Mae hynny’n anhygoel.”